SiânEVANSEVANS Siân Ar ôl cystudd, gan dderbyn gofal tyner yng Nghartref Castell Tywi, bu farw Siân o'r Gesail, Llanddarog, yn 95 oed yng nghwmni ei theulu ar Chwefror 9 fed . Priod cariadus a ffrind ffyddlon y diweddar Cynlais, mam arbennig Llŷr ac Aled, mam-yng-nghyfraith annwyl Ann a Margaret, mam-gu hoffus i'w hwyresau Rhian a'i phriod Gareth, Mared a'i chymar Rhys, Manon a'i chymar Guto, Mirain a'i chymar Andrew, a Martha a'i chymar Brychan, a hen fam- gu siriol Gethin ac Ifan. Hanai o'i hannwyl Gwm Peniel, Llanuwchllyn - "Bugeiles yr Aran". Gynt o'r Rhondda a Chydweli. Cymraes i'r carn.
Gwasanaeth i'r teulu yn yr Amlosgfa ac yna Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghapel Newydd, Llanddarog am 12.00 o'r gloch ddydd Llun, Mawrth 3 ydd .
Blodau gan y teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn ddiolchgar, os dymunir, er cof am Siân a hynny tuag at yr "Alzheimer's Society" neu "Cymdeithas y Cymod". Derbynnir y sieciau (yn daladwy i'r hyn a ddewisir) yn garedig gan:
Teifion Sewell, Trefnydd Angladdau, Awel-y-grug, Mynyddcerrig, Llanelli SA15 5BD. Ffôn: 01269 870722
Keep me informed of updates